FIN(4) 02-12 – Papur 5

 

 

Effeithiolrwydd Ariannu Strwythurol Yr Undeb Ewropeaidd yng Nghymru

 

Gofynnwn i’r ymchwiliad i nodi bod ymateb Coleg Morgannwg yn ymwneud yn bennaf â Champws Dysgu Taf Elai (TELC) sydd wedi elwa o’r £6.7M a dderbyniwyd o’r Gronfa Gydgyfeirio.

 

 

Cwestiynau Ymgynghori

 

1.     I ba raddau ydych chi’n ystyried bod Rhaglenni Cydgyfeirio a Rhaglenni Cystadleurwydd a Chyflogaeth Rhanbarthol ar gyfer y cyfnod 2007 - 13 yng Nghymru wedi cyflawni – neu yn cyflawni - yr amcanion a fwriadwyd?

Mae’n anodd ateb y cwestiwn hwn gan ei fod yn rhagdybio gwybodaeth eang o holl ddarpariaeth Ariannu Strwythurol 2007-13. Byddai canolbwyntio ar ddarpariaeth y Coleg hyd yn oed yn anodd gan fod rhaid cwblhau cyfnod gweithredol holl brosiectau 2007 - 13 a gan fod y gwaith gwerthuso yn dal i fynd yn ei flaen. 

Dim ond ar ôl i’r rhaglen gael ei hadolygu y gellir ateb y cwestiwn hwn yn llawn. Fodd bynnag, o ran Prosiect TELC er enghraifft – credir y bydd y targed yn cael ei gyflawni yn 2012.

Hefyd, rydyn ni’n sylweddoli bod rhaglenni Blaenoriaeth 1 a Blaenoraieth 2 yn caniatáu i ni gynnig ymyrraeth a chymorth mawr ei angen i ddysgwyr, yn enwedig sgiliau sylfaenol na fyddai ar gael fel arall. Heb y cymorth hwn, yn ôl y dystiolaeth, fyddai dysgwyr ddim wedi cymryd rhan na pharhau gyda’u haddysg. 

2.  Ydych chi’n ystyried bod y gwahanol brosiectau a ariennir gan gronfeydd Strwythurol yr Undeb Ewropeaidd yng Nghymru yn sicrhau gwerth am arian?

O ran TELC yr ateb fyddai ydyn. Mae archwiliadau WEFO ac archwiliadau mewnol wedi dangos hyn ac mae ar y trywydd iawn i gyflawni amcanion achos busnes.

Fodd bynnag, fe fyddem ni’n ychwanegu bod y broses o wneud cais, hawlio a monitro yn golygu gwaith gormodol o’i gymharu â ffrydiau ariannu eraill ar gyfer y Prosiect. Rydyn ni’n llwyr ymwybodol o amodau’r grant a byddwn yn sicrhau ein bod yn cwrdd â’r amodau hynny ond mae costau ariannol hyn yn sylweddol.

O ran prosiectau Blaenoriaeth 1 a Blaenoriaeth 2 a darpariaethau ariannol strwythurol eraill yr UE y mae’r coleg yn eu cyflenwi fel partner, sicrheir Gwerth am Arian drwy lynu at reoliadau caffael ac ariannol WEFO a’r coleg. Monitrir i sicrhau bod holl wariant prosiect yn berthnasol, o’r gwerth gorau ac yn uniongyrchol berthnasol i ddeilliannau’r prosiect a’r profiad buddiol a ddaw yn ei sgil. O ran B1 a B2 lle mae’r coleg yn bartner, caiff y prosiect drwyddi draw ei fonitro am werth am arian gan y partner arweiniol hefyd. 

3.   Ydych chi’n pryderu am y defnydd o Arian Cyfatebol a Dargedir? Oes pryderon gennych am y defnydd o wariant adrannol Llywodraeth Cymru fel arian a dargedir? Pa effaith ydych chi’n credu mae’r toriadau yn y sector cyhoeddus wedi cael (ac y gallai gael) ar argaeledd arian cyfatebol y sector cyhoeddus?

Nac ydyn – mae’n golygu bod gennym fwy o hyblygrwydd i ddefnyddio arian strwythurol yn fwy strategol i gyflawni amcanion y sefydliad ac amcanion perthnasol Llywodraeth Cymru, yn enwedig os nad oes dulliau eraill o arian cyfatebol ar gael i gynorthwyo prosiectau strategol pwysig.

Efallai bod toriadau yn cael effaith ond bydd asesiad o raglen cronfa strwythurol yr UE yn ogystal â chanlyniadau gwerthusiad prosiectau penodol yn rhoi arweiniad i ni sut i symud ymlaen i dargedu darpar ostyngiad yn arian cyfatebol y sector cyhoeddus ar gyfer y prosiectau strategol pwysicaf.

4.   Pa mor effeithiol yn eich tŷb chi mae Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO) wedi monitro a gwerthuso effaith prosiectau?

Mae hwn yn gwestiwn anodd i’w ateb o gofio ein bod yn y cylch cyllido. O ran TELC, rydyn ni bob amser yn ein cyfarfodydd monitro yn gwirio’r cynnydd a wneir i gyrraedd targedau penodol fel bod y Prosiect gorffenedig yn cael yr effaith a fwriedir.

O ran B1 a B2, mae partner(iaid) arweiniol y prosiect yn cyflwyno canlyniadau unrhyw fonitro a gwerthuso a wnaed i WEFO. Bydd y ddau brosiect yn cael eu gwerthuso’n barhaus drwy 2012. 

5.   Oes gennych bryderon am gynaladwyedd tu hwnt i 2013 y gweithgareddau a deilliannau’r prosiectau a ariannwyd yn ystod y cylch cyfredol o Arian Strwythurol?

Dim pryder o ran TELC, ond mae angen mwy o ffocws ac archwilio i gryfder strategaethau ymadael prosiect yn enwedig os oes tystiolaeth gref bod angen y gwasanaethau y mae’r prosiectau yn eu darparu ar ôl cyfnod cyntaf eu hariannu. Hefyd, a fydd amcanion strategol unrhyw swydd newydd a ariennir gan yr UE ar ôl 2013 yn cysylltu ag amcanion cydgyfeirio. Byddai hyn yn golygu y gallai prosiectau cyfredol sy’n gallu dangos darpar angen sylweddol gan fuddiolwyr i gael mynediad i’r cyllid hwnnw heb doriad, os collir staff allweddol, gallu a gwasanaethau pwysig.

6. Beth ydych profiad chi o gael mynediad i Arian Strwythurol Ewropeaidd?

Yn y gorffennol mae’r coleg wedi cyflenwi prosiectau ESF ac ERDF o dan Amcan Un cyfnod 2000 – 06. O dan y cyllid Cydgyfeirio 2007 – 13, mae’r coleg ar hyn o bryd yn cyflenwi un prosiect ERDF (TELC), mae’n bartner mewn prosiect B1 ESF a hefyd yn bartner mewn prosiect B2 ESF.  

Hefyd, mae’r coleg yn bartner arweiniol mewn consortia Hyfforddiant Athrawon Adduned Cyflogwr a Sgiliau Hanfodol a ariennir gan yr ESF. Mae’r coleg hefyd yn cyflenwi dau gwrs gradd sylfaenol o dan raglen Diploma Cyntaf ESF mewn Adeiladu ac Awyrofod.

Fel y nodwyd yng nghwestiwn 2, mae’r broses o gael mynediad i grant ERDF ar gyfer TELC yn un sylweddol. Isod, nodir y problemau penodol a gafwyd: 

 

7. Ydy’r sector preifat yng Nghymru yn gwneud digon i sicrhau Cronfa Strwythurol yr Undeb Ewropeaidd?

Amherthnasol

8. Yn 2009, llwyddodd WEFO i sicrhau cynnydd yng nghyfraddau ymyrraeth rhaglen gyda’r Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer dwy Raglen Cydgyfeirio yr ERDF ac ESF. Yn ei adroddiad ym mis Gorffennaf 2010, nododd Asiantaeth Datblygu Rhanbarthol y De Orllewin ei bod wedi negydu cyfraddau ymyrraeth uwch gyda’r Comisiwn Ewropeaidd. Ydy Cymru’n gwneud y defnydd mwyaf effeithiol o’r cyfraddau ymyrraeth uwch sydd yn y rhaglen?

 

Rydyn ni’n credu mai mater i’w drafod yw hwn rhwng Llywodraeth Cymru a’r Comisiwn Ewropeaidd gan y rhagdybir eu bod bob amser yn manteisio i’r eithaf ar gyfleodd er lles Cymru.